The college is welcoming students to join the innovative BTEC Level 3 National Foundation Diploma in Esports.
The two-year qualification will run at Cambria’s Deeside site from September and has been created by the British Esports Association and awarding body Pearson.
Cambria’s Curriculum Director Suzanne Barnes said their academic offering is forever evolving to meet the needs of industry and advances in technology,
“Esports is a newly established and rapidly-growing sector which presents opportunities for employment locally nationally and globally, therefore, it is crucial we at Coleg Cambria provide our learners with courses relevant to the new economy,” she said.
“The qualification includes a wide range of contemporary transferable skills demanded by employers which will enable our learners to take advantage of the multitude of career pathways and progression routes awaiting them – either directly to employment or via further study.”
Suzanne added:
“Esports offers a unique chance to study a sector that crosses over multiple subject areas such as sport, marketing, enterprise, and the creative media.
“It provides an opportunity for alignment of social, physical, mental, and financial skills into an exciting and new qualification which will deepen and expand learning.”
Modules include Games Design, Business Applications of Esports in Social Media, Esports Coaching, Live-Streamed Broadcasting, Producing an Esports Brand, and Video Production.
“The skills delivered in modules such as these are highly valued in the changing and fluid workplace of the new economy, so we are excited to be at the forefront here in North Wales,” said Suzanne.
According to the British Esports Association, the industry has created thousands of new jobs around the world – and this number is continuing to grow.
The number of Esports roles in the UK posted on jobs website Hitmarker has risen by 163% year-on-year, and Newzoo, a leading gaming and esports market analytics firm, says global esports industry revenue will hit $1.084billion in 2021.
In another exciting development the Cambria course has attracted the sponsorship of a leading manufacturer and international retailer of esports peripherals, HyperX.
“Not only has HyperX generously donated a range of top of the range peripherals to our Esports course, but they will be active partners in providing pathways into the wider business elements of the industry for our learners,” said Suzanne.
Gary Tibbett, Education Manager at British Esports, added:
“It’s great to have Coleg Cambria as one of the colleges running the BTEC Level 3 National Foundation Diploma in Esports from September.
“Esports engages a wide demographic of young people and is intrinsically a fun, team-building activity that promotes leadership, character development, and much more. These skills can be transferred across into alternative industries and offer a multitude of career pathways.”
For more information on the new Esports qualification at Coleg Cambria, visit the website: www.cambria.ac.uk
Mae’r coleg yn croesawu myfyrwyr i ymuno â Diploma Sylfaen Cenedlaethol arloesol Lefel 3 BTEC mewn E-chwaraeon.
Bydd y cymhwyster dwy flynedd yn cael ei gyflwyno ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria o fis Medi ac mae wedi ei lunio gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain a’r corff dyfarnu, Pearson.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria, Suzanne Barnes, fod eu cynnig academaidd yn esblygu’n barhaus i ddiwallu anghenion diwydiant a datblygiadau mewn technoleg,
“Mae E-chwaraeon yn sector sydd newydd ei sefydlu ac sy’n cynyddu’n gyflym, gan gyflwyno cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn lleol ac yn fyd-eang. Mae felly’n hanfodol ein bod ni yng Ngholeg Cambria yn darparu cyrsiau sy’n berthnasol i’r economi newydd i’n dysgwyr,” meddai.
“Mae’r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy cyfoes y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt. Bydd hefyd yn galluogi ein dysgwyr i fanteisio ar y llu o lwybrau gyrfa a llwybrau dilyniant sy’n eu disgwyl – naill ai’n uniongyrchol i fyd gwaith neu drwy astudio ymhellach.”
Dywedodd Suzanne hefyd:
“Mae E-chwaraeon yn cynnig cyfle unigryw i astudio sector sy’n pontio nifer o feysydd pwnc amrywiol, fel chwaraeon, marchnata, menter, a’r cyfryngau creadigol.
“Mae’n rhoi cyfle i alinio sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddyliol ac ariannol â chymhwyster cyffrous a newydd a fydd yn dyfnhau ac yn ehangu dysgu.”
Mae’r modiwlau’n cynnwys Dylunio Gemau, Cymwysiadau Busnes E-chwaraeon yn y Cyfryngau Cymdeithasol, Hyfforddi E-chwaraeon, Darlledu Ffrydio’ n Fyw, Cynhyrchu Brand E-chwaraeon, a Chynhyrchu Fideos.
“Mae’r sgiliau sy’n cael eu cyflwyno mewn modiwlau fel y rhain yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yng ngweithleoedd newidiol a hylifol yr economi newydd. Rydyn ni felly’n gyffrous cael bod ar y blaen yma yng Ngogledd Cymru,” dywedodd Suzanne.
Yn ôl Cymdeithas E-chwaraeon Prydain, mae’r diwydiant wedi creu miloedd o swyddi newydd ledled y byd – ac mae’r nifer hwn yn parhau i gynyddu.
Mae nifer y swyddi E-chwaraeon yn y DU sy’n cael eu postio ar wefan swyddi Hitmarker wedi cynyddu 63% flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dywedodd Newzoo, sy’n gwmni blaenllaw mewn dadansoddi’r farchnad hapchwarae ac E-chwaraeon, y bydd refeniw’r diwydiant E-chwaraeon byd-eang yn cyrraedd $1.084 biliwn yn 2021.
Mewn datblygiad cyffrous arall mae cwrs Cambria wedi denu nawdd gan HyperX, sy’n wneuthurwr ac yn fanwerthwr rhyngwladol blaenllaw o ddyfeisiau perifferol E-chwaraeon.
Dywedodd Suzanne:
“Nid yn unig y mae HyperX wedi rhoi nifer o ddyfeisiau perifferol gwahanol o’r radd flaenaf i’n cwrs E-chwaraeon, ond mi fyddan nhw hefyd yn bartneriaid gweithredol wrth greu llwybrau i feysydd busnes ehangach y diwydiant i’n dysgwyr.”
Dywedodd Gary Tibbett, Rheolwr Addysg yn E-chwaraeon Prydain:
“Mae’n wych cael Coleg Cambria fel un o’r colegau sy’n cyflwyno Diploma Sefydliad Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn E-chwaraeon o fis Medi.
“Mae E-chwaraeon yn ymgysylltu â demograffig eang o bobl ifanc, ac yn ei hanfod mae’n weithgaredd adeiladu tîm hwyliog sy’n hyrwyddo arweinyddiaeth, datblygu cymeriad, a llawer rhagor. Mae’n bosibl trosglwyddo’r sgiliau hyn i ddiwydiannau eraill ac maen nhw’n cynnig llu o lwybrau gyrfa.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymhwyster E-chwaraeon newydd yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: https://www.cambria.ac.uk
Be the first to comment